I Blaenau Gwent A Garem

3 Awst 2017

Rydym am i chi ein helpu i wneud Blaenau Gwent yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhwng nawr a 14 Medi 2017 gofynnwn i bobl leol edrych ar ein blaenoriaethau dechreuol ar gyfer gwella’r ardal a dweud wrthym beth y credant sydd ei angen i wneud i hynny ddigwydd. Cliciwch y pennawd uchod i gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan.

BGC Newydd Blaenau Gwent

17 Ionawr 2017

BGC Newydd Blaenau Gwent Er mwyn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), y mae Blaenau Gwent wedi cwblhau cyfnod pontio ei Fwrdd Gwasanaethau Lleol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n bodoli i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw yn ardal Blaenau Gwent.

BGC Newydd Blaenau Gwent

Er mwyn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) y mae Blaenau Gwent wedi cwblhau cyfnod pontio ei Fwrdd Gwasanaethau Lleol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n bodoli i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw yn ardal Blaenau Gwent

Darganfodwch mwy  

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae ganddi saith gôl llesiant ac yn dweud wrth sefydliadau sut i weithio'n fwy cynaliadwy gyda’i gilydd i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf drwy ddilyn pum ffordd o weithio.

Darganfodwch mwy  

Panel Dinasyddion Blaenau Gwent

Mae Panel Dinasyddion Blaenau Gwent yn cynnwys preswylwyr o bob rhan o Flaenau Gwent sydd â diddordeb mewn cael dweud eu dweud a dylanwadu ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. Mae darparwyr gwasanaethau lleol megis y Cyngor, yr Heddlu a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrando ar farn aelodau ein panel wrth gynllunio neu newid eu gwasanaethau

Darganfodwch mwy